Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Statement: Monday 2 November 2020
Dr Giri
Shankar, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
response at Public Health Wales, said:
“Public
Health Wales supports the new measures from Welsh Government which will come in
at the end of the current fire-break period on 9 November 2020, in particular
the call for the public to take personal responsibility for their actions and
to ensure that they are doing as much as possible to limit the transmission of
Coronavirus.
“As we
enter the second and final week of the fire-break, we urge the public to stick
to the current rules, which are vital to help us regain control of the virus,
to protect the NHS, and save lives.
“Although national
and local measures have made a difference, further action is needed. Cases continue to rise in Wales, hospital
admissions are increasing, including those into critical care, and sadly so are
the numbers of people dying from the virus.
“Under the rules,
people must stay at home, except for very limited purposes. They must not visit other households or meet
other people they do not live with.
“Certain
businesses and venues, including bars, restaurants and most shops must close.
“Secondary
schools will provide learning online only for the week after half-term, other than
for children in years seven and eight. Primary schools and childcare settings
will remain open.
“Face
coverings continue to be mandatory in the indoor public spaces that remain
open, subject to certain exemptions and exceptions, including on public transport
and in taxis.
“More
information about the new rules is available at the Welsh Government website.
“Due to a
data transfer issue between NWIS and Public Health Wales over the weekend,
today’s figures on our dashboard includes a backlog of data from the previous
24 hours.
“During the
firebreak it is still important to look after your health, and you can you
continue to attend appointments and seek help for urgent medical issues.
“Attending
a booked NHS flu vaccination appointment and any of Public Health Wales’ screening clinics is a legitimate
reason to travel during the firebreak.
“NHS Wales
is still here to help you if you need care, and it’s important you continue to
attend appointments and seek help for urgent medical issues. You can leave your
home to access local health services, including your GP surgery, dentist,
optometrist or other health service.
“You should
phone beforehand and follow any guidance your local surgery, dentist,
optometrist or health service has put in place to protect you and staff,
including the need to keep 2m away from other patients.
“It’s
especially important to look after our mental health and wellbeing at this
time. You can find sources of advice and
guidance on our website if you need some help
or are worried about a loved one.
“If you or
a member of your household develop symptoms of the Coronavirus, such as a
cough, fever or change in sense of taste or smell, you must self-isolate
immediately and book a free Coronavirus test at www.gov.uk/get-coronavirus-test or by calling 119.
“Helpful
advice and support is available via the NHS COVID-19 app. As well as
providing alerts if you have been in contact with someone with Coronavirus, the app will
also tell you the current risk level in your area.
“Information
about the symptoms of Coronavirus is available on the Public Health Wales
website, or via the NHS 111 Wales symptom checker.
“For those
travelling from overseas, as of 4am on Sunday 1 November, Cyprus and Lithuania have
been removed from the Welsh Government’s list of countries from where you may
travel to Wales without the need to self isolate. Therefore, travellers
returning from those countries will need to self-isolate on their return.
Datganiad: Dydd Llun 2 Tachwedd 2020
Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos
o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r mesurau newydd gan Lywodraeth
Cymru a fydd yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod atal byr presennol ar 9 Tachwedd
2020, yn enwedig y gofyniad i’r cyhoedd gymryd cyfrifoldeb personol dros eu
gweithredoedd ac i sicrhau eu bod yn gwneud cymaint â phosibl i gyfyngu
trosglwyddiad Coronafeirws.
“Wrth i ni ddechrau ail wythnos y cyfnod atal byr, sef yr wythnos olaf,
rydym yn annog y cyhoedd i gadw at y rheolau cyfredol, sy’n hanfodol er mwyn
ein helpu i adennill rheolaeth ar y feirws, i ddiogelu’r GIG ac i achub
bywydau.
“Er bod mesurau cenedlaethol a lleol wedi gwneud gwahaniaeth, mae angen
gweithredu ymhellach. Mae achosion yn
parhau i gynyddu yng Nghymru, mae derbyniadau i’r ysbyty yn cynyddu, gan
gynnwys i ofal critigol, ac, yn anffodus, felly hefyd mae nifer y bobl sy’n
marw o’r feirws.
“O dan y rheolau, rhaid i bobl aros gartref, ac eithrio at ddibenion
cyfyngedig iawn. Rhaid iddynt beidio ag
ymweld ag aelwydydd eraill na chwrdd â phobl eraill nad ydyn nhw'n byw gyda
nhw.
“Rhaid i rai busnesau a lleoliadau, gan gynnwys bariau, bwytai a’r
mwyafrif o siopau gau.
“Bydd ysgolion uwchradd yn dysgu ar-lein yn unig dros yr wythnos ar ôl
hanner tymor, heblaw am blant ym mlynyddoedd saith ac wyth. Bydd ysgolion
cynradd a lleoliadau gofal plant yn aros ar agor.
“Mae gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn orfodol yn y lleoedd cyhoeddus
dan do sy'n dal i fod ar agor, ar wahân i rai eithriadau, gan gynnwys ar
drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis.
“Mae rhagor o wybodaeth am y rheolau newydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
“Oherwydd problem wrth drosglwyddo data rhwng Gwasanaeth Gwybodeg GIG
Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru dros y penwythnos, mae ffigurau heddiw ar ein
dangosfwrdd yn cynnwys ôl-groniad o ran data o’r 24 awr blaenorol.
“Mae hi’n dal yn bwysig gofalu am eich iechyd yn ystod y cyfnod atal
byr, a gallwch barhau i fynychu apwyntiadau a cheisio cymorth ar gyfer materion
meddygol brys.
“Mae mynychu apwyntiad wedi’i archebu i gael brechiad ffliw y GIG a
mynychu unrhyw un o glinigau
sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheswm
dilys i deithio yn ystod y cyfnod atal byr.
“Mae GIG Cymru yma o hyd i'ch helpu os oes angen gofal arnoch, ac mae'n
bwysig i chi barhau i fynychu apwyntiadau a cheisio cymorth ar gyfer materion
meddygol brys. Gallwch adael eich cartref i gael mynediad at wasanaethau iechyd
lleol, gan gynnwys eich practis meddyg teulu, deintydd, optometrydd neu
wasanaeth iechyd arall.
“Dylech ffonio ymlaen llaw a dilyn unrhyw ganllawiau mae eich practis
meddyg teulu lleol, deintydd, optometrydd neu wasanaeth iechyd wedi'i roi ar
waith i'ch diogelu chi a staff, gan gynnwys yr angen i gadw 2m i ffwrdd oddi
wrth gleifion eraill.
“Mae'n arbennig o bwysig gofalu am ein hiechyd meddwl a'n llesiant yn
ystod yr adeg hon. Os oes angen
rhywfaint o help arnoch, neu os ydych chi'n poeni am anwyliaid, gallwch ddod o
hyd i ffynonellau cyngor ac arweiniad ar ein gwefan.
“Os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd yn datblygu symptomau
Coronafeirws, fel peswch, twymyn neu newid i synnwyr blasu neu arogli, rhaid i
chi hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf Coronafeirws am ddim yn www.gov.uk/get
-coronavirus-test neu drwy ffonio 119.
“Mae cyngor a chymorth defnyddiol ar gael trwy ap COVID-19 y GIG.
Yn ogystal â darparu rhybuddion os ydych wedi bod mewn cysylltiad â rhywun â
Coronafeirws, bydd yr ap hefyd yn dweud
wrthych beth yw lefel gyfredol y risg yn eich ardal.
“Mae gwybodaeth am symptomau Coronafeirws ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus
Cymru, neu drwy wiriwr symptomau GIG 111 Cymru.
“I’r rhai sy’n teithio o dramor, o 4am ddydd Sul 1 Tachwedd, mae Cyprus
a Lithwania wedi’u tynnu oddi ar restr
Llywodraeth Cymru o’r gwledydd y gallwch deithio i
Gymru ohonynt heb fod angen hunanynysu. Felly, bydd angen i’r teithwyr hynny
sy’n dychwelyd o’r gwledydd hynny hunanynysu ar ôl dychwelyd.